SL(6)702 – Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r isafbris am uned ar gyfer alcohol yng Nghymru o 50c i 65c yr uned.
Gweithdrefn
Cadarnhaol Drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae paragraff 2.3 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn tynnu sylw'r Pwyllgor at y datganiad canlynol:
“Mae’r offeryn hwn wedi’i lunio heb ddefnyddio’r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymru. Mae’n bosibl felly y bydd angen gwneud mân welliannau i’r fformadu yn ystod y broses gofrestru os caiff y ddeddfwriaeth hon ei chymeradwyo gan y Senedd a’i gwneud gan Weinidogion Cymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
13 Ionawr 2026